Cynhaliodd Uned Cymorth i Deuluoedd Carchar y Parc, yn Ne Cymru, glwb 'dysgu gyda'n gilydd' arbennig ar 16 Mai 2010 i ddathlu Wythnos Dysgu Oedolion.
Ymhlith y gweithgareddau roedd
- Cwis 'ydych chi'n fwy deallus na phlentyn chwe mlwydd oed?'
- Cyflwyniad ar Gyfnodau Allweddol a'r Cwricwlwm Cenedlaethol, gan rai o'r bechgyn
- Gweithiodd y tadau ar stondin Dechrau Da yn y neuadd ymweliadau, gan roi llyfrau a phecynnau Dechrau Da i deuluoedd, ac egluro sut y gallant helpu eu plant i ddysgu.
Dywedodd Sue Ellis, Rheolwr Cwricwlwm Ymyriadau Teuluol:
Roedd y llyfrau a roddwyd gan Dechrau Da yn llwyddiant ysgubol. Dewisodd dros 20 o blant lyfrau i'w darllen gyda'u tadau ac i fynd â nhw adref gyda nhw. Roedd plant eraill fu'n ymweld yn ystod y dydd wedi dewis llyfrau hefyd. Hefyd ychwanegwyd rhai o'r llyfrau at ein mannau darllen i blant yn y neuadd ymweliadau. Rydym yn gwerthfawrogi'r cymorth y mae Dechrau Da wedi'i roi i ni a'r bartneriaeth a sefydlwyd.
Mae Booktrust Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi ddatblygu partneriaeth â'r Uned Cymorth i Deuluoedd, sydd wedi ennill sawl gwobr, yng Ngharchar y Parc. Byddwn yn sicrhau y bydd yr Uned, sy'n cyflawni cymaint ar gyfer ei theuluoedd, yn parhau i gael budd o raglen Dechrau Da.







Add a comment