Rhaglen adrodd stori: Sesiynau 'darllen gyda'ch gilydd' a rhoi rhoddion mewn canolfannau plant
Gwnaeth fy annog i ddarllen mwy, i gymryd mwy o amser i ddarllen mwy, ac nid yn unig ar adeg mynd i'r gwely
Rhiant ynghylch y rhaglen Adrodd Stori
Roedd teuluoedd yn Sir Fynwy, De Cymru, yn falch o dderbyn llyfr am ddim gan Dechrau Da i'w hannog i rannu llyfrau â'u babanod a'u plant bach. Cymerodd 98 o deuluoedd ran yn rhaglen Adrodd Stori Dechrau Da a gynhaliwyd gan eu canolfannau plant integredig lleol ym mis Chwefror 2011.
Aeth y teuluoedd i sesiwn arbennig ar 'ddarllen gyda'ch gilydd', a gynhaliwyd mewn 14 o grwpiau Dechrau'n Deg neu Cychwyn Cadarn gwahanol ac a luniwyd gan staff y ganolfan. Ar ôl trafod y ffyrdd gwahanol o rannu straeon a'r manteision i'w plant, rhoddwyd llyfrau Dechrau Da i rieni er mwyn iddynt barhau i fwynhau darllen llyfrau gartref.
Adborth cadarnhaol gan rieni
Dywedodd Clair Evans, rheolwr y ganolfan fod pob un o'r teuluoedd, a oedd yn dod o ardaloedd difreintiedig yn bennaf, wrth eu bodd o gael y llyfr. Yn ogystal, dywedodd 72% o'r rhieni fod y sesiwn wedi'u hannog i ddarllen mwy gyda'u plentyn, a nododd y rhieni eu bod yn credu bod y negeseuon hyn yn bwysig:
- 'Pwysigrwydd treulio amser yn darllen gyda'm plentyn'
- 'Ces i fy annog i ddefnyddio'r Gymraeg'
- 'Annog fy mhlentyn i edrych ar y lluniau'
- 'I beidio â phoeni am y stori ei hun, rhannu'r profiad yw'r peth pwysig'.
Blwch straeon: llyfrau dwyieithog mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
Ar gyfer y rhaglen Blwch Straeon, dywedodd gweithwyr y blynyddoedd cynnar ledled Cymru wrth eu grwpiau rhieni am y pecynnau Dechrau Da a buont yn hyrwyddo negeseuon allweddol am bwysigrwydd rhannu llyfrau â phlant ifanc. Rhoddodd Dechrau Da 150 o lyfrau dwyieithog i'r gweithwyr i'w rhoi am ddim i'w teuluoedd.
Cymerodd y cynlluniau blynyddoedd cynnar canlynol ran yn y rhaglen.
- 20 o gynlluniau Dechrau'n Deg awdurdodau lleol
- 17 o ganolfannau plant integredig
- Pob un o'r 22 swyddog maes Twf
Poblogaidd ymhlith gweithwyr proffesiynol a rhieni
Roedd bron bob gweithiwr (94%) o'r farn bod hyn yn gwneud defnydd da o adnoddau a byddent yn argymell y fenter i gydweithiwr
Cynhaliwyd y rhaglen Blwch Straeon ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru gyda dros 2,400 o deuluoedd yn cymryd rhan. Roedd y rhaglen yn boblogaidd gyda nhw hefyd:
- Roedd bron bob rhiant (98%) yn falch o gael llyfr a byddent yn defnyddio'r llyfr gartref
- Roedd 82% o'r rhieni o'r farn ei bod wedi'u helpu i ddeall bod rhannu llyfrau yn bwysig i blant bach a chawsant eu hannog i ddarllen mwy gyda'u plentyn
Sylwadau rhai rhieni:
- 'Gallai fy mhlentyn ddarllen mwy...yn hytrach na throi'r teledu ymlaen, gallwn ni ddarllen llyfrau'
- 'Mae'r llyfrau wedi fy nysgu bod Shay yn mwynhau gwneud synnau'r anifeiliaid sydd yn y llyfrau'
- 'Mae llyfrau iaith arwyddion i'w cael sy'n ein helpu i edrych ar lyfrau gyda'n gilydd am fy mod yn fyddar'







Add a comment