Bu dros 1,800 o oedolion a phlant yn dathlu Wythnos Genedlaethol Dechrau Da ym mis Mehefin mewn digwyddiadau a drefnwyd gan Gydlynwyr Dechrau Da ledled Cymru.
Dywedodd 96% o'r rhieni y byddent yn defnyddio'r llyfryn 'I ffwrdd â ni!' gartref gyda'u plentyn
Dywedodd 72% o'r rhieni fod mynd i'r digwyddiad wedi'u hannog i dreulio mwy o amser yn darllen gyda'u plentyn
Roedd 94% o'r rhieni o'r farn bod y digwyddiad yn annog plant i weld bod darllen a llyfrau yn llawn hwyl.
Adborth gwych gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol
'Roedd hi'n braf cael canu'r caneuon Cymraeg.'
Rhiant, Aberhonddu
'Er ei fod yn waith caled roedd yn hwyl a theimlaf fy mod wedi cyrraedd plant sydd wedi cael budd mawr o'r sesiynau straeon a rhigymau'.
Cydlynydd Dechrau Da/Dechrau'n Deg, Abertawe
'Roedd y 'gêm synau yn ychwanegiad hyfryd eleni. Rhoddodd fwy o gyfleoedd i rieni a gofalwyr ymestyn dysgu eu plentyn gartref.'
Cydlynydd Dechrau Da
'Ymunais â Sue Bradfield, cydweithwyr o Dechrau'n Deg, Gwasanaeth Llyfrgelloedd Torfaen, Cychwyn Cadarn a Chanolfan Plant Integredig Woodlands i ddifyrru plant ifanc llawn cyffro a'u rhieni mewn ymweliad arbennig gan y Llyfrgell Symudol. Ar ôl cyflwyno fy hun fel y 'Mam-gu Lyfrau'...darllenais stori wych a oedd yn cynnwys anifeiliaid fferm a thractor mawr coch.'
Y Cynghorydd Mary Barnett, Cadeirydd y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc, Torfaen
Lluniau o ddathliadau Canolfan y Mileniwm
Cynhaliwyd bore o ddathliadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd lle daeth dros 300 o deuluoedd i sesiynau Rhigymau a sesiynau Adrodd Stori.







Add a comment