This site is BrowseAloud enabled
Text size
Small Medium Large
Contrast
Default Black on white Yellow on black

Ynglŷn â Blwch Gwych

Ynglŷn â Blwch Gwych

Pecyn adnoddau am ddim i weithwyr y blynyddoedd cynnar yng Nghymru er mwyn gwella eu gwaith gyda rhieni o ran rhannu llyfrau.

Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd 2011, mae Booktrust Cymru yn rhoi 150 o Flychau Gwych Dechrau Da i weithwyr y blynyddoedd cynnar am ddim.

 

Caiff Blychau Gwych eu dosbarthu mewn cynadleddau yn Llandudno, Caerdydd a Chaerfyrddin - nid oes lle ar ôl.

 

Beth sydd ym Mlwch Gwych Dechrau Da?

Mae Blychau Gwych Dechrau Da yn cynnwys 10 copi o'r llyfrau dwyieithog sy'n ymddangos ym mhecynnau Dechrau Da, ynghyd â'r canlynol:

  • taflen awgrymiadau
  • DVD Dechrau Da newydd o deuluoedd o Gymru yn rhannu llyfrau â phlant bach
  • CD Twf.

 

Sut y gellir defnyddio Blychau Gwych Dechrau Da?

  • Diben y llyfrau dwyieithog ym Mlwch Gwych Dechrau Da yw dangos esiampl o rannu llyfrau i rieni plant bach
  • Gellir defnyddio'r llyfrau a'r DVD i egluro manteision byrdymor a hirdymor rhannu llyfrau
  • Yn bwysig ddigon, bydd gan rieni gopi o'r llyfr Dechrau Da yn eu pecyn Dechrau Da eu hunain gartref felly gallant ddal ati i rannu llyfrau â'u babanod a'u plant bach ar ôl eich sesiwn.