Blwch Gwych Dechrau Da
Pecyn adnoddau am ddim i weithwyr y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Blwch Gwych Dechrau Da yw'r rhaglen newydd sy'n helpu gweithwyr y blynyddoedd cynnar i helpu rhieni i gael hwyl yn rhannu llyfrau.
Mwy o wybodaeth am Flwch Gwych Dechrau Da
Dysgwch beth sydd yn y Blwch Gwych, a sut y gellir defnyddio'r adnodd hwn sydd ar gael am ddim.
Awgrymiadau gweithgaredd a chrefft
Gadewch i'n syniadau am weithgareddau llyfrau'r Blwch Gwych eich ysbrydoli – Gwisgo i Fyny Pi-Po!, Popeth Amdana I, Nawr’ te Blant a Nos Da, Anifeiliaid!.
Lawrlwytho ffurflenni gwerthuso
Os ydych yn cymryd rhan yn rhaglen Blwch Gwych Dechrau Da, cofiwch fod angen i chi ddychwelyd ffurflen adborth proffesiynol a phum ffurflen adborth teuluoedd atom.
Gwyliwch y ffilm: 'Dod â Llyfrau'n Fyw'
Mae'r ffilm hon, sydd ym Mlwch Gwych Dechrau Da, yn dangos teuluoedd o Gymru yn rhannu llyfrau yn y cartref, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i gael hyd yn oed fwy o hwyl wrth rannu llyfrau.







