Pecyn Blynyddoedd Cynnar Dechrau Da

Mae'r pecyn hwn i blant bach yn helpu i feithrin sgiliau iaith a gwrando.
I bwy mae'r pecyn a phryd y caiff ei roi?
Mae'r pecyn i blant bach yng Nghymru. Caiff y pecynnau eu rhoi gan ymwelwyr iechyd yn ystod archwiliadau iechyd pan fydd y plentyn bach rhwng 18 a 30 mis.
Dysgwch am gynnwys Pecyn Blynyddoedd Cynnar Dechrau Da
Beth yw'r ffordd orau o roi'r pecynnau hyn?
Mae'n hanfodol cyfleu neges gynnes a chalonogol o safon uchel am bleser a manteision rhannu llyfrau i deuluoedd pan gyflwynir pecyn Dechrau Da iddynt.
Yn ddelfrydol, dylid dangos cynnwys y pecynnau i deuluoedd a rhoi gwybod iddynt am aelodaeth llyfrgelloedd a, lle y bo'n briodol, cyfleoedd dysgu i'r teulu fel sesiynau rhigymau.
O'm profiad i, mae eistedd ar y llawr a darllen un o'r llyfrau i'r baban neu'r plentyn bach yn ffordd wych o fodelu rôl.
Nid wyf erioed wedi rhoi pecyn i deulu heb wneud hyn. Byddwn yn colli cyfle fel arall.
Nid oes dim byd yn fwy boddhaol na chael mam neu dad yn dweud wrthych y tro nesaf y byddwch yn eu gweld eu bod wedi bod yn darllen i'w baban neu wedi bod i'r llyfrgell neu wedi prynu rhagor o lyfrau.
Anita Johnson: Bydwraig Cymorth Arbenigol: Grwpiau Agored i Niwed, Wiltshire
Dysgwch sut i'w rhoi i'r safon aur (PDF, in English)
Beth mae teuluoedd yn ei ddweud
'Mae Jojoe wrth ei fodd pan fyddwn ni'n eistedd i lawr gyda'n gilydd'
Dysgwch sut gwnaeth digwyddiad teuluol a phecyn Blynyddoedd Cynnar Dechrau Da helpu mam a'i phlentyn bach i rannu straeon.
Ffilm: Dod â Llyfrau'n Fyw
Darganfyddwch sut y gallwch ddod â llyfrau'n fyw i'ch baban neu blentyn bach.







O'm profiad i, mae eistedd ar y llawr a darllen un o'r llyfrau i'r baban neu'r plentyn bach yn ffordd wych o fodelu rôl.