Pecyn Babanod Dechrau Da

I bwy mae'r pecyn a phryd y caiff ei roi?
Mae'r pecyn i fabanod yng Nghymru. Caiff y pecynnau eu rhoi gan ymwelwyr iechyd yn ystod archwiliadau iechyd pan fydd y baban rhwng 7 a 9 mis oed.
Dysgwch am gynnwys Pecyn Babanod Dechrau Da
Beth yw'r ffordd orau o roi'r pecynnau hyn?
Mae'n hanfodol cyfleu neges gynnes a chalonogol o safon uchel am bleser a manteision rhannu llyfrau i deuluoedd pan gyflwynir pecyn Dechrau Da iddynt.
Yn ddelfrydol, dylid dangos cynnwys y pecynnau i deuluoedd a rhoi gwybod iddynt am aelodaeth llyfrgelloedd a, lle y bo'n briodol, cyfleoedd dysgu i'r teulu fel sesiynau rhigymau.
Ar gyfer y rhieni hynny sy'n ei chael yn anodd darllen gyda'u baban, rydym wedi gweld bod modelu rôl yn llwyddiannus iawn.
Rydym yn anfon ein gweinyddwyr meithrin i gartrefi i weithio gyda rhieni, gan dynnu pob dim o'r bag, siarad am sut i'w defnyddio a'u hannog i fynd i'r llyfrgell a pheidio â phoeni os caiff llyfrau eu difrodi gan fod modd cael rhai newydd yn eu lle.
Yn fy marn i, mae rhoi bag Dechrau Da yn hanfodol er mwyn i rieni ddefnyddio llyfrau'n gynnar.
Alison Higley: Arweinydd Gwella Ansawdd a Pherfformiad, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Swydd Derby
Dysgwch sut i'w rhoi i'r safon aur (PDF, in English)
Beth mae teuluoedd yn ei ddweud
'Cawson ni oriau o hwyl gyda Phecyn Babanod Dechrau Da'
Cafodd Meg a'i mam oriau o hwyl gyda'u dau becyn Dechrau Da – gan ddarganfod llyfrau Cymraeg ar yr un pryd...
Ffilm: Dod â Llyfrau'n Fyw
Darganfyddwch sut y gallwch ddod â llyfrau'n fyw i'ch baban neu blentyn bach.







Ar gyfer y rhieni hynny sy'n ei chael yn anodd darllen gyda'u baban, rydym wedi gweld bod modelu rôl yn llwyddiannus iawn.