This site is BrowseAloud enabled
Text size
Small Medium Large
Contrast
Default Black on white Yellow on black

Prosiect Bywyd Newydd

Hyrwyddo Dechrau Da ym Mhrosiect arbennig Bywyd Newydd, Butetown, Caerdydd

Awst 2008-Mehefin 2009

Margaret Holt
, Cydlynydd Dechrau Da, Llyfrgelloedd Caerdydd


Crynodeb

Prosiect arloesol i hyrwyddo Dechrau Da i famau ifanc rhwng 16 a 25 oed mewn ardal ddifreintiedig o Gaerdydd, sef Butetown. Helpodd sesiynau rhigymau/adrodd stori rheolaidd Dechrau Da oresgyn rhwystrau wrth ddysgu caneuon, rhigymau a rhannu straeon, gan helpu mamau i wella eu hunan-hyder a'u sgiliau bywyd.

Cyflwyniad

Mae'r Prosiect Bywyd Newydd yn brosiect a ariennir gan y loteri a sefydlwyd ym mis Ionawr 2008 ac a fydd yn parhau hyd at fis Rhagfyr 2012 gan weithredu yn ardal Butetown yng Nghaerdydd. Nod y prosiect yw torri'r cylch tlodi ac amddifadedd i ferched beichiog ifanc (16-19 oed) a mamau ifanc (16-25 oed) drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi cyfle i'r merched ifanc fanteisio ar rwydweithiau cymunedol, gwybodaeth a chanllawiau newydd i leihau'r teimladau o unigedd
  • Helpu'r merched i wella eu hunan-hyder drwy feithrin sgiliau bywyd newydd
  • Annog y merched i wneud mwy yn eu cymuned leol


Daeth yr arweinydd prosiect sy'n gyfrifol am y mamau rhwng 16 a 25 oed ataf at gam cyntaf cynllunio'r prosiect ym mis Mehefin 2008, a theimlais y byddai'n brosiect gwerth chweil a fyddai'n hyrwyddo Dechrau Da. Roedd yn arweinydd yn newydd i'r ardal ond cafodd fy manylion drwy Iaith a Chwarae, y mae Dechrau Da yn gweithio agos iawn â'r rhaglen yng Nghaerdydd. Teimlais y byddai'n gyfle gwych i gyflwyno'r merched i'r arfer gwych o rannu llyfrau, rhigymau a chaneuon gyda'u plant, a'u hannog i ddefnyddio'r llyfrgell gydol eu hoes.



Methodoleg

Cefais gyfle y cyfarfod cychwynnol gydag arweinydd y prosiect ym mis Mehefin i gyflwyno fy hun a'm rôl fel Cydlynydd Dechrau Da - sut y gallwn gyfrannu at y rhaglen drwy hyrwyddo Dechrau Da i'r mamau, rhannu caneuon a rhigymau a helpu i oresgyn rhwystrau gyda'r grŵp. Cytunwyd y byddwn yn trefnu ymweliadau prynhawn rheolaidd â'r mamau rhwng 16 a 25 oed yn Elfen 2 o'r prosiect. 



Yn y bore aeth y merched i weithdai deirgwaith yr wythnos i ddysgu sgiliau fel TG, DIY, Magu Plant, Ffitrwydd a Choginio. Yn y prynhawn aethent i sesiynau mwy anffurfiol gyda'r plant - a byddai Dechrau Da yn chwarae rhan allweddol ynghyd ag asiantaethau eraill - Iaith a Chwarae, a Dawns Rwbicon. Cyfarfûm â'r gweithiwr chwarae, Kim, i drafod natur fy ymweliad (math o sesiwn rigymau ac ati) i ddiwallu anghenion y merched, yr oedd gan rai ohonynt anghenion cymdeithasol ac emosiynol mawr.



Canfyddiadau

Ymwelais â rhai o'r grŵp yn gyntaf ym mis Gorffennaf i roi sesiwn 'ragflas' i gyflwyno fy hun a dod i'w hadnabod. Yn ddiweddarach ymwelais bob tair wythnos ac ar ôl ychydig o betrustod, yn raddol, llwyddais i berswadio'r mamau i ymuno â'r caneuon, y rhigymau a'r straeon.

Gydag anogaeth a chymorth y gweithiwr chwarae, dechreuodd y mamau edrych ymlaen at rannu rhigymau a chaneuon, yn enwedig drwy ddefnyddio offerynnau cerddorol ynghyd â finnau yn canu'r gitâr. Dros yr wythnosau, roedd y plant bach yn canolbwyntio'n well ac roeddwn yn gallu cyflwyno rhywfaint o waith rannu llyfrau, gan gyfeirio at lyfrau lluniau da i'w defnyddio gyda'u plant. Roedd y mamau wrth eu bodd yn cael pecynnau Dechrau Da a helpais i wella nifer y rhigymau a wyddant drwy rannu rhigymau thema ar bob ymweliad a gadael 'bagiau llyfrau' gyda chasgliadau o lyfrau lluniau'r llyfrgell.



Gwerthusiad

Cafwyd adborth llafar yn dilyn pob ymweliad gan y Gweithiwr Chwarae a ofynnodd i'r mamau'n rheolaidd pa rannau o'r rhaglen y gwnaethant eu mwynhau. Yn fy adroddiad Dechrau Da, dywedodd y gweithiwr chwarae:

'Bu'r sesiynau yn llwyddiant ysgubol! I ddechrau, roedd y rhieni ychydig yn amheus ond drwy'r ymweliadau rheolaidd maent wedi dysgu sut i oresgyn eu cywilydd i'w galluogi i fwynhau cymryd rhan yn y sesiynau canu, gan rannu rhigymau a llyfrau gyda'u plant.'



Roedd y sylwadau a gafwyd gan famau yn y sesiynau yn gadarnhaol iawn. Dywedodd un fam:



'Byth ers i Margaret roi pecyn llyfrau i mi, rwyf wedi rhannu stori amser gwely gyda fy mab.'



Daethpwyd ar draws rhai problemau - amrywiai'r niferoedd a ddaeth gan nad oedd rhai mamau'n teimlo'r angen i fynd i'r sesiynau yn y prynhawn ar ôl y gweithdai boreol rheolaidd. Roedd y plant yn aml yn flinedig ar ôl bore prysur ym meithrinfa'r ganolfan ac roedd rhai aelodau o'r grŵp yn ymdopi â phroblemau iechyd a chymdeithasol amrywiol. Ceisiais ymateb i anghenion y grŵp drwy wneud fy rhaglen yn amrywiol ac yn rhyngweithiol ac roedd adborth cyson gan Kim, y gweithiwr chwarae, yn helpu i sicrhau bod yr ymweliadau yn llwyddiannus.



Casgliadau

  • Cafodd y grŵp craidd o famau fudd o'm hymweliadau drwy ddysgu rhigymau a chaneuon newydd a dysgu sut i fwynhau rhannu llyfrau gyda'u plant
  • Ymunodd pob un â'u llyfrgell leol a daeth dwy fam i Sioe Deithiol arbennig yr Arth Dechrau Da yn yr haf yn y Llyfrgell Ganolog
  • Roedd cyfathrebu da gyda'r gweithiwr chwarae yn fy ngalluogi i gynnal sesiynau Dechrau Da priodol ar gyfer y grŵp
  • Rwyf wrthi'n trefnu cyfres newydd o ymweliadau â'r Prosiect Bywyd Newydd sy'n cynnwys grŵp newydd oherwydd ar ôl chwe mis, bydd grwpiau yn symud i gyfnod o wirfoddoli â chymorth yn y gymuned