Dyma mam Erin yn dweud wrthyn ni am Becyn Babanod Dechrau Da, canu caneuon a gweld ei merch fach yn dysgu cyfri.
Roeddwn i'n credu ei fod yn beth gwych pan wnaeth yr ymwelydd iechyd roi fy mag Dechrau Da i mi - roeddwn i wrth fy modd yn cael rhywbeth am ddim.
Dydw i ddim yn cofio'n iawn faint oed oedd Erin pan gawson ni'n bag ond roedd yn sicr yn iau na blwydd oed. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y deunydd darllen, a'r llyfr caneuon a wnaeth fy atgoffa i ganu i'm merch fach - rhywbeth na fyddwn i wedi'i wneud mor gynnar gyda hi fel arall.
Roeddwn i wrth fy modd gyda'r llyfrau ac yn eu cadw yn fy mag ac yn eu darllen iddi pan oedden ni allan. Roedd y bag ei hun yn wych hefyd: roedd yn berffaith i gario dillad sbâr a mân bethau ynddo. Rwy'n cofio rhoi'r llinell rhifau i fyny yn ystafell wely Erin a chyfri hyd at ddeg bob tro roedden ni yn ei hystafell.
Roeddwn i'n credu bod y pecyn yn rhodd wych ac mae'r ddwy ohonon ni wedi cael llawer iawn o hwyl yn ei ddefnyddio dros y blynyddoedd.







Add a comment