Cafodd Meg a'i mam, sy'n byw yn Ne Cymru, oriau o hwyl gyda'u dau becyn Dechrau Da - gan ddarganfod llyfrau Cymraeg ar yr un pryd...
Dim ond cwpl o fisoedd oed oedd Meg pan gawson ni ein bag Dechrau Da cyntaf. Roedd amrywiaeth o lyfrau Cymraeg a Saesneg ynddo - roedd wrth ei bodd gyda'r llyfr Pi-po yn benodol, a chawson ni oriau o hwyl gyda'r llyfr.
Roedd y llyfrau Cymraeg yn dda hefyd gan eu bod yn ddigon hawdd i mi eu darllen - gwnaeth y darn Saesneg fy helpu i ddeall y stori. Mae'n debygol na fyddwn i wedi prynu llyfr Cymraeg fel arall.
Pan aeth Meg am ei archwiliad pan oedd yn ddwy flwydd oed, rhoddodd yr ymwelydd iechyd fag Dechrau Da arall iddi, a oedd yn wych. Roedd gan yr un yma lyfrau gwych ynddo, ac mae'r bag yn braf a lliwgar - rydyn ni'n ei gadw iddi ei ddefnyddio pan fydd hi'n mynd i'r ysgol.
Rydyn ni wedi rhoi siart taldra Meg i fyny ar y wal gartref. Bu'n rhaid i mi fynd i brynu un arall i'm mab Cal - pan fyddan nhw'n hŷn byddan nhw'n eu rhoi yn eu blychau o bethau i'w cadw.
Hoffwn ddiolch i chi ar fy rhan i a'm dau blentyn - dydych chi ddim yn cael rhywbeth am ddim yn aml iawn, yn enwedig rhywbeth mor braf a defnyddiol.







Add a comment