Mae mam Jojoe, sy'n ddwy a hanner oed, yn datgelu sut mae mynd i ddigwyddiad lleol a chael ei phecyn Dechrau Da wedi dangos iddi cymaint o hwyl y gall rhannu straeon a rhigymau fod.
Doeddwn i ddim wedi clywed am Dechrau Da cyn i mi fynd i grŵp Iaith a Chwarae. Roedd arweinydd y sesiwn yn siarad am y pecynnau ac roedd ganddi un sbâr y gwnaeth ei roi i mi.
Yn y grŵp, gwnaethon ni ddarllen y straeon a gwneud gweithgareddau crefft gwahanol yn ymwneud â'r ddau lyfr o'r pecyn Dechrau Da - ac roedd Jojoe, fy mhlentyn dwy a hanner oed, wrth ei fodd.
Cyn hynny, doeddwn i ddim wedi darllen llawer gydag ef oherwydd roeddwn yn ei chael yn anodd, ond dangosodd y grŵp Iaith a Chwarae i mi fy mod yn gallu edrych ar y lluniau a siarad amdanyn nhw gydag ef. Nawr rwyf wir yn ceisio rhannu llyfrau'n amlach, am fy mod am i'm mab allu darllen a mwynhau'r ysgol pan fydd yn hŷn.
Mae Jojoe wrth ei fodd pan fyddwn ni'n eistedd i lawr gyda'n gilydd, ac mae'n chwerthin pan fydda i'n canu gyda'r caneuon ar ein CD o rigymau. Mae Jojoe wrth ei fodd pan fyddwn ni'n eistedd i lawr gyda'n gilydd, ac mae'n chwerthin pan fydda i'n canu gyda'r caneuon ar ein CD o rigymau. Mae'n glyfar iawn erbyn hyn ac yn gwybod yr holl eiriau bron iawn!
Aethon ni ar daith i'r llyfrgell ac rwyf wedi dechrau benthyca llyfrau. Doeddwn i erioed wedi bod yno o'r blaen - roeddwn i'n meddwl y byddai'n fy nychryn - ond mae'r merched sy'n gweithio yno'n garedig iawn a bob amser yn fy helpu i ddod o hyd i lyfr y mae fy mab yn ei hoffi.







Add a comment