This site is BrowseAloud enabled
Text size
Small Medium Large
Contrast
Default Black on white Yellow on black

Ymunwch â'ch llyfrgell leol

Gall hyd yn oed y plentyn lleiaf fod yn aelod o lyfrgell
Gall hyd yn oed y plentyn lleiaf fod yn aelod o lyfrgell

Y lle delfrydol i ddod o hyd i fwy o lyfrau i'ch plentyn

Neges oddi wrth lyfrgelloedd yng Nghymru

Eich llyfrgell leol yw'r lle delfrydol i ddod o hyd i fwy o lyfrau i'w cyflwyno i'ch plentyn. Mae dewis eang yno gan gynnwys llyfrau bwrdd lliwgar â dim ond ychydig eiriau, llyfrau ar liwiau a siapiau, llyfrau rhigymau, a llyfrau lluniau â straeon hirach.

 

Gall hyd yn oed y plentyn lleiaf fod yn aelod o lyfrgell ac nid yw'n costio dim i ymuno. Bydd llawer o lyfrgelloedd yn cynnal Sesiynau rhigymau a sesiynau adrodd stori, sydd yn ffordd wych i famau, tadau a gofalwyr gwrdd â'i gilydd a rhannu caneuon, straeon a rhigymau.

 

Yma i helpu

Mae bod yn rhiant yn waith caled a rhoddir croeso i unrhyw help - bydd gan eich llyfrgell leol lyfrau a all roi help a chyngor i chi hefyd. Gofynnwch i ni am lyfrau ar faterion sy'n effeithio ar rieni plant bach, gan gynnwys

  • diddyfnu
  • defnyddio'r toiled
  • delio â strancio
  • datblygu patrymau cysgu da.

 

Cofiwch: mae llyfrgelloedd yn croesawu plant bach a dydyn ni ddim yn dweud shhh! mwyach!  

 

Dewch o hyd i'ch llyfrgell agosaf yn library.wales.org

Cropian Drwy Lyfrau Dechrau Da

Casglwch sticeri a chewch dystysgrifau hardd yn eich llyfrgell leol.