This site is BrowseAloud enabled
Text size
Small Medium Large
Contrast
Default Black on white Yellow on black

Cropian Drwy Lyfrau gyda Dechrau Da: ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru

Cropian Drwy Lyfrau gyda Dechrau Da: ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru

Casglwch sticeri a thystysgrifau yn eich llyfrgell leol

Ers i ni ymuno â'r rhaglen Cropian Drwy Lyfrau, mae fy maban 22 mis yn gallu cyfrif i 10, yn gwybod lliwiau, ac yn canu rhigymau...
Mae'r rhaglen Cropian Drwy Lyfrau gwneud gwahaniaeth mawr i'm baban!

Rhiant Dechrau Da

Ewch i'ch llyfrgell leol a chewch afael ar gerdyn casglu Dechrau Da - yna gallwch ddechrau casglu sticeri bob tro y byddwch yn mynd yno ac yn benthyca llyfr i'w ddarllen gyda'ch gilydd.
 
Am bob pedwar sticer, bydd eich plentyn yn cael tystysgrif liwgar hardd. Mae llawer o ddyluniadau gwahanol felly gallwch ddal ati i'w casglu - gan gynnwys tystysgrif Cropian Drwy Lyfrau aur arbennig ar gyfer eich 10fed tystysgrif.

 

 

Dysgwch fwy am ymuno â'ch llyfrgell leol

Dysgwch am ddigwyddiadau Dechrau Da lleol eraill