Booktrust Cymru

Caiff Dechrau Da yng Nghymru/Bookstart in Wales ei reoli gan Booktrust Cymru
Booktrust Cymru yw swyddfa Cymru yr elusen annibynnol Booktrust. Rydym yn cydnabod ac yn adeiladu ar y canlynol::
- Pwysigrwydd hanfodol tadau, mamau a gofalwyr eraill fel athrawon cyntaf
- Yr effaith sylweddol a pharhaus y gall yr agweddau a'r sgiliau cynnar a ddatblygir yn y cartref eu cael ar ddyfodol plentyn fel darllenydd a dysgwr gydol oes
- Mynediad at ddiwylliant a chreadigrwydd fel hawl bersonol
- Pwysigrwydd darllen annibynnol am bleser a'i effaith gadarnhaol ar iechyd a lles emosiynol.
Clwb Blwch Llythyrau i blant sy'n derbyn gofal

Mae Booktrust Cymru hefyd yn rheoli'r Clwb Blwch Llythyrau/Letterbox Club - rhaglen ar gyfer plant rhwng 7 a 13 oed sy'n derbyn gofal. Mae'n rhoi parsel o lyfrau, gweithgareddau mathemategol a deunyddiau addysgol unwaith y mis am chwe mis.
Fel Dechrau Da, caiff rhaglen y Clwb Blwch Llythyrau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.







