This site is BrowseAloud enabled
Text size
Small Medium Large
Contrast
Default Black on white Yellow on black

Dechrau Da yng Nghymru

Mae Dechrau Da yng Nghymru wedi bod yn newid bywydau plant er gwell ers dros ddeng mlynedd.

Mae darllen gyda'ch plentyn yn sgil allweddol sy'n helpu i ddatblygu ei leferydd a'i iaith. Felly p'un a ydych yn darllen stori amser gwely neu'n rhannu cerddi doniol gyda'ch gilydd yn ystod teithiau hir yn y car, byddwn yn eich annog i gymryd pum munud bob dydd i fwynhau ychydig o amser gyda'ch gilydd oherwydd bydd eich plant yn siŵr o gael budd ohono.

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Mae Dechrau Da yn rhoi pecynnau llyfrau dwyieithog am ddim i bob plentyn yng Nghymru pan fyddant yn naw mis oed ac yn ddwy flwydd oed er mwyn ysbrydoli cariad at ddarllen a fydd yn rhoi dechrau da iddynt mewn bywyd.

 

Mae Dechrau Da yn rhoi'r canlynol i chi...

  • Llyfrau am ddim i'w rhannu gyda'ch plentyn
  • Cymorth ac arweiniad wrth i chi ysbrydoli cariad at ddarllen yn eich plentyn
  • Cyfle i gysylltu â theuluoedd eraill mewn digwyddiadau cymunedol bywiog a llawn hwyl
  • Lle i ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i rannu llyfrau, straeon a rhigymau gyda'ch plentyn, ar-lein.

 

Sut mae Dechrau Da yn gweithio yng Nghymru

Caiff Dechrau Da ei reoli gan swyddfa Cymru yr elusen annibynnol Booktrust a caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
 
Mae'r nawdd hael a roddir gan gyhoeddwyr llyfrau plant a llyfrau Red House yn sicrhau bod y rhaglen yn werth da am arian. Dim ond drwy'r amser a'r adnoddau a roddir gan ein partneriaid mewn llyfrgelloedd a thimau ymwelwyr iechyd ledled Cymru y mae'r rhaglen Dechrau Da yn bosibl.

Hafan Dechrau Da Cymru

Dysgwch sut i gael eich pecynnau a mwy.